Pan esgynodd 'r Hwn ddisgynodd

(Esgyniad Crist)
Pan esgynodd 'r Hwn ddisgynodd,
  Wedi gorphen yma'i gwaith,
Pyrth oedd yn dyrchafu eu penau -
  Gorfoleddent yn eu hiaith:
Dorau'n agor, côr yn plygu,
  I Dduw mewn cnawd yr ochor draw;
Y Tad yn siriol a'i gwahoddai
  I eistedd ar Ei ddeheu law!

Digon mewn llifeiriant dyfroedd,
  Digon yn y fflamau tân;
O am nerth i lynu wrtho,
  A phara byth yn ddiwahan;
Ar dd'ryslyd lwybrau tîr Arabia,
  Lle mae gelynion fwy na rhi',
Rho' gymdeithas dyoddefiadau,
  Gwerthfawr angeu Calfari.

Pan fo'm henaid 'n fwyaf gwresog,
  Yn danllyd garu'n fwyaf byw,
Mae'r pryd hyny yn fyr o gyrhaedd,
  Perffaith sanctaidd gyfraith Duw:
O am nerth i'w hanrhydeddu,
  Trwy dderbyn iachawdwriaeth râd,
A'r cymmundeb mwyaf diddig,
  Yn hyfryd felys yn y gwaed.

Mae hiraeth arnaf am ymadael,
  Bob dydd ar y gwaedlyd faes;
Nid â'r arch nac Israel dirion,
  Ond â'm hunan ymchwydd cas;
Cael dod yn hŷ at fwrdd y Brenin,
  A'm gwahodd yno i eiste'n uwch,
A minau'n para'n wan ac eiddil,
  A byth am garu yn y llwch.

O na chawn i dreulio 'nyddiau,
  Yn fywyd o dderchafu'i waed;
Llechu'n dawel dan ei gysgod,
  Byw a marw wrth ei draed:
Cario'r groes
    a phara'i chodi,
  Am mai croes fy Mhriod yw;
Ymddifyru yn ei Berson,
  A'i addoli ef fy Nuw.
Y Tad :: A'r Tad
gwahoddai :: gwahoddodd

Ann Griffiths 1776-1805

Tonau [8787D]:
Carlisle (<1825)
Gaerwen (Lowell Mason 1792-1872)
Ledforth (Johann Rosenmüller 1615-84)

gwelir:
  Deffro Arglwydd gwna rymuster
  Digon mewn llifeiriant dyfroedd
  O'm blaen mi wela' ddrws agored

(The Ascension of Christ)
When He who descended ascended,
  Having finished here his work,
Gates were raising their heads -
  They would rejoice in their language:
Doors opening, choir bowing,
  To God in flesh on yonder side;
The Father cheerfully was welcoming him
  To sit at His right hand!

Sufficient in streaming waters,
  Sufficient in the flames of fire;
O for strength to stick to him,
  And remain forever inseparable;
On the land of Arabia's troublesome paths,
  Where enemies are more than number,
Grant the fellowship of the sufferings
  Of the precious death of Calvary.

When my soul be warmest,
  Fiery loving the most alive,
That time is short of reaching,
  The perfect sacred law of God:
  O for strength to honour it,
Through receiving free salvation,
  And the most placid communion,
Delightfully sweet in the blood.

I have longing to depart,
  Every day the bloody field;
Neither the ark nor tender Israel,
  Takes but my detestable conceit;
To come boldly to the table of the King,
  And be invited there to sit above,
While I remain weak and feeble,
  And forever want to love in the dust.

O that I could spend my days,
  In a life of exalting the blood;
Hiding quietly under his shadow,
  Living and dying by his feet:
Carrying the cross
    and continuing to lift it,
  Since my Spouse's cross it is;
Taking comfort in his Person,
  And worshipping him my God.
The Father :: And the Father
::

tr. 2018,23 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~